Moel Famau
Mae gyrrwr wedi’i ladd wedi i’w gar ddisgyn o ben bancyn yn un o feysydd parcio Moel Famau.

Roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle, wedi i’r heddlu gael eu galw toc wedi 9yh nos Iau, Gorffennaf 25.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth gan dystion a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad.

Fe gafodd y frigad dân, y gwasanaeth ambiwlans a’r heddlu eu galw i’r fan.