Mae dyn 54 oed wedi marw yn yr ysbyty, ar ôl digwyddiad y tu allan i dafarn yn Abergele nos Iau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai tua 10.30yh nos Iau, Gorffennaf 25, y digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i dafarn y Pen-y-bont Inn, ond na chafodd ei riportio nes fore Sadwrn, y 27ain.

Mae dyn a dynes leol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod, ac maen nhw’n dal i gael eu holi.