Mae tad y ferch fach, Madeleine McCann, a ddiflannodd tra ar wyliau ym Mhortiwgal chwe blynedd yn ôl, wedi cwblhau ras er mwyn codi arian at achos da.


Gerry McCann, Triathlon Llundain
Mae Gerry McCann wedi disgrifio Triathlon Llundain fel ras “ofnadwy o anodd”, ond ei fod wedi dwyn nerth ar gyfer ei chwblhau trwy godi arian at elusen Missing People.

Fe lwyddodd i gwblhau’r cwrs, trwy nofio, beidio a rhedeg, mewn ychydig dan ddwyawr a hanner.

“Yr hyn gadwodd fi i fynd oedd gallu helpu’r elusen Missing People, sydd yn cefnogi pobol sy’n byw efo math gwahanol iawn o boen, ar ôl colli anwyliaid.

“Roedd o’n brofiad corfforol anodd, ac un anodd yn emosiynol.”