Mae bachgen 16 oed wedi cael ei ladd mewn gwyl yn Sbaen lle’r oedd teirw’n rhedeg yn rhydd.

Fe gafodd ei dwlcio yn ei gefn yn ystod dathliadau Gwyl St Iago yn nhre’ Isso, 200 milltir i’r de-ddwyrain o brifddinas Sbaen, Madrid.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu lleol, fe fu’r bachgen farw rai oriau wedi’r digwyddiad, o ganlyniad i anafiadau mawr i’w iau.

Fe gafodd dyn 60 oed hefyd ei anafu yn ei goes yn ystod yr wyl.