Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi datgelu mewn cyfweliad papur newydd ei bod yn diodde’ o Glefyd Siwgr Math 1, a’i bod yn gorfod cymryd pigiadau insiwlin ddwywaith y dydd.

Ond mae hi hefyd wedi dweud na fydd y cyflwr, nad oes gwella ohono, yn effeithio ar ei gallu i wneud ei gwaith.

Mae’r cyflwr yn golygu nad yw ei chorff yn medru cynhyrchu insiwlin bellach, a dyna pam y mae’n cymryd yr hormôn insiwlin er mwyn treulio’r siwgr yn ei chorff.

Roedd clywed ei bod yn diodde’ o’r cyflwr “yn sioc go iawn”, meddai wrth bapur newydd The Mail on Sunday. Mae’n dweud iddi gymryd peth amser i ddod i delerau ag o.

Ond bellach, meddai, mae’n fater o “roi pen i lawr, a chario ymlaen â phethau”.

Dim yn effeithio ei gwaith

“Dydi’r clefyd siwgr ddim yn effeithio sut dw i’n gwneud fy ngwaith,” meddai Theresa May. “Mae’n rhan o fywyd.

“Fe ddechreuodd fis Tachwedd diwetha’. Es i at y doctor oherwydd fod gen i annwyd a pheswch reit gas, ac fe gymrodd sampl gwaed.

“Dyna sut ffeindiais i allan fod gen i glefyd siwgr.”

Dod yn arweinydd

Roedd rhai sylwebyddion wedi bod yn sylwi ar y ffaith fod Theresa May wedi colli dipyn o bwysau dros y flwyddyn a hanner ddiwetha’ – ac mae’n cadarnhau yn y papur ei bod wedi colli stôn a hanner.

Roedd hynny yn un o sumptomau’r clefyd siwgr, ond roedd hithau wedi bod yn mynd i’r gamfa i ymarfer. Ac roedd y sylwebyddion wedi gweld hynny fel arwydd ei bod yn meddwl am ddechrau ymgyrch i ddisodli David Cameron…

“Does yna ddim ymgyrch i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol,” meddai Theresa May. “Mae ganddon ni Brif Weinidog penigamp…

“Fydd y clefyd siwgr ddim yn effeithio’r ffordd yr ydw i’n gwneud fy ngwaith,” meddai wedyn. “Rydw i ychydig yn fwy gofalus o ran be’ dw i’n fwyta, ac rydw i’n cymryd yr insiwlin…

“Ond mae yna filiynau o bobol sy’n gorfod byw efo hyn.”