Vince Cable
Mae Vince Cable wedi ymosod ar ei gydweithwyr Torïaidd oddi mewn i lywodraeth glymblaid Sam Steffan, am “lansio ymgyrch wirion” ar y rheiny sy’n dod i Brydain yn anghyfreithlon.

Mae gan y Torïaid obsesiwn gydag ystadegau mewnfudo, meddai ar raglen Andrew Marr Show ar BBC1 fore heddiw.

Ac mae’r neges gan y llywodraeth o fewn yr wythnos ddiwetha’ i’r rheiny sy’n dod i Brydain yn anghyfreithlon, “ewch adre, neu fe gewch eich ffeindio a’ch anfon adre” yn creu ofn, meddai Vince Cable.

“Mae’n wirion ac yn amharchus,” meddai. “Dw i ddim yn meddwl y bydd yr ymgyrch hon yn parhau.

“Maen nhw wedi gosod posteri ar faniau o gwmpas Llundain… ond dw i ddim yn meddwl y byddai gan fewnfudwyr anghyfreithlon ddigon o Saesneg i ddarllen y posteri!

“Mae’n amharchus,” meddai eto. “Mae’r ymgyrch wedi ei chynllunio, yn ôl pob tebyg, i godi ofn ar bobol Prydain a rhoi’r argraff bod ganddon ni broblem fewnfudo anferth.

“Mae yna broblem,” meddai Vince Cable, “ond nid problem fawr. Ac mae’n rhaid delio â hi trwy ddelio gydag achosion y broblem.”