Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod angen bron i £8.5 biliwn mewn cymorth dyngarol eleni – gydag un rhan o dair ohono’n mynd i Syria – er mwyn helpu’r 73 miliwn o bobl sy’n dioddef o gwmpas y byd.
Y tebygolrwydd yw na fydd cymaint â thraean o’r hyn sydd ei angen yn cael ei godi yn ôl ffigyrau’r Cenhedloedd Unedig.
Dros y pum mlynedd diwethaf, dyw’r Cenhedloedd Unedig ond wedi gallu dod o hyd i rhwng 63% a 72% o’r hyn y mae’n ei ddweud sydd ei angen i fwydo, rhoi llety a darparu cymorth sylfaenol i’r miliynau o bobl sydd angen cymorth.
“Hanner ffordd drwy’r flwyddyn, rydym yn gwybod bod angen cymorth dyngarol ar 73 miliwn o bobl,” dywedodd y Farwnes Amos wrth ohebwyr yn Genefa.
“Mae’r cynnydd yn bennaf oherwydd yr argyfwng yn Syria, ac yn y rhanbarth cyfagos, ond hefyd oherwydd bod sefyllfaoedd wedi gwaethygu mewn gwledydd eraill fel yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica a Mali.”
Argyfwng yn Syria
Dywedodd y Farwnes Amos, sy’n bennaeth ar Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Cydlynu Materion Dyngarol, bod yr argyfwng yn Syria angen o leiaf £2.9 biliwn ar gyfer y 6.8 miliwn o bobl sy’n dioddef yn y wlad a’r 5.3 miliwn o ffoaduriaid neu bobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro mewn gwledydd ar y ffin â’r wlad.
Hyd yn hyn, dim ond tua 40% o’r hyn sydd ei angen o amgylch y byd sydd wedi cael ei godi ar gyfer cymorth dyngarol meddai’r Farwnes Amos a chyfaddefodd nad oedd ganddi syniad sut i gael y gweddill.
Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am waith 620 o asiantaethau cymorth y Cenhedloedd Unedig.