Mae’r cynlluniau tu ôl i ymosodiadau terfysgol yn Mhrydain yn dod yn llai cymleth ac yn ddibynnol ar lai o bobl, yn ôl adolygiad annibynnol.
Dywedodd David Anderson QC, sy’n adolygu’r ddeddfwriaeth terfysgol fod ymosodiadau gan unigolion sydd ar ben eu hunain yn llawer anoddach i’w atal ond fod al-Qaida yn parhau i chwarae rhan mewn hyfforddi unigolion yn Mhrydain i ymgymryd ag ymosodiadau.
Dywedodd David Anderson QC: “Mae’r reddf a’r gallu i gario allan ymosodiadau fel 7/7 yn parhau ym Mhrydain, fel a welwyd yn ddiweddar gan gynllun bomiau Birmingham. Ond mae cyfleoedd yr ymosodwyr i lwyddo yn eu hymosodiadau yn lleihau oherwydd y gwelliannau i M15 ers 2005.”
Dywedodd fod y bygythiad i’r wlad gan ymosodiadau bychain, fel a welwyd yn achos Lee Rigby yn Llundain, yn dangos fod pobl sy’n cael eu radicaleiddio yn parhau i fygwth diogelwch y wlad yn enwedig unigolion sy’n dychwelyd i Brydain o wledydd tramor. Meddai,
“Mae gwrthryfeloedd jihadi â’r potensial i radicaleiddio unigolion ym Mhrydain ynghyd ag unigolion sy’n dychwelyd o ymladd dramor – mae hyn yn fygythiad uniongyrchol i Brydain.”