Mae Bernie Ecclestone wedi cael ei gyhuddo gan erlynwyr yn yr Almaen o lwgrwobrwyo cyn-fancar Almaenig.

Bu Bernie Ecclestone dan y chwyddwydr ers i’r cyn-fancar Gerhard Gribkowsky gael ei farnu’n euog o gymryd taliad anghyfreithlon gwerth £29 miliwn ganddo.

Dywedodd pennaeth Formula 1 wrth lys y wladwriaeth yn Munich ei fod wedi teimlo dan bwysau i dalu’r arian yn 2006 oherwydd ei fod yn poeni y byddai Gerhard Gribkowsky yn achwyn amdano wrth awdurdodau treth Prydain.

Mae Ecclestone yn mynnu nad yw wedi gwneud “dim byd anghyfreithlon”.

Roedd Gribkowsky yn gyfrifol am reoli gwerthu cyfran cwmni BayernLB yn Formula 1.

Yn ogystal â chymryd yr arian gan Bernie Ecclestone, dywedodd yr erlynwyr bod Gerhard Gribkowsky wedi defnyddio cyllid BayernLB i dalu comisiwn o £27 miliwn i Bernie Ecclestone a chytuno i dalu £16 miliwn arall i Ymddiriedolaeth Bambino –  cwmni mae Ecclestone yn gysylltiedig ag ef.

Dywedodd Bernie Ecclestone ei fod yn haeddu comisiwn am y gwerthiant.  Cafodd Gerhard Gribkowsky ei  ddedfrydu i wyth mlynedd a hanner yn y carchar ar ôl ei gael yn euog y llynedd o lygredd, osgoi talu treth a thorri ymddiriedaeth.