Carl Sargeant
Mae’r Gweinidog Tai, Carl Sargeant AC wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i gefnogi’r diwydiant tai, tra’n sicrhau diogelwch a safon cartrefi yng Nghymru.

Ymhlith y mesurau newydd fydd cyflwyniad graddol o systemau sbrinclars dŵr ymhob tŷ ynghyd â thargedau newydd i leihau effaith nwy tŷ gwydr. Cyhoeddodd Carl Sargeant hefyd y bydd cynllun Cymorth Prynu Cymru yn cael ei lansio i roi cymorth i brynwyr tai sy’n methu sicrhau morgeisi.

Dywedodd Carl Sargeant ei fod yn ymwybodol o’r problemau sy’n wynebu’r diwydiant tai ond fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu tai diogel a chynaliadwy i bobl Cymru.

Meddai: “Adeiladu tai newydd yw fy mlaenoriaeth. Wrth wneud hyn byddwn yn ymateb i’r galw am dai a hefyd creu swyddi a thŵf i’r economi gan greu gwaith i helpu pobl allan o dlodi. Mae’r pecyn yma yn cynrychioli’r cam cyntaf yn y broses o gynyddu darpariaeth tai yng Nghymru.”

Beirniadaeth o Lafur

Mae cyhoeddiad Carl Sargeant wedi cael croeso cymysg. Dywedodd llefarydd y Blaid Geidwadol ar Dai a Chymunedau, Mark Isherwood:

“Er fy mod yn croesawu gweledigaeth Gweinidogion y Blaid Lafur i ddarparu mwy o dai, dylsa bod nhw’n cymryd cyfrifoldeb am y gostyngiad yn y nifer o dai a adeiladwyd ers datganoli.”

Roedd Mark Isherwood hefyd yn ddrwgdybus o gynlluniau Carl Sargeant i gyflwyno cymorth i brynwyr tai sicrhau morgeisi. Dywedodd:

“Dyma ddiogi llwyr wrth greu polisi drwy neidio ar gefn cynlluniau Llywodraeth Prydain i gyflwyno mesurau i sicrhau morgeisi a gyhoeddodd y Canghellor fis Mawrth.”