Bydd ymwelwyr i Abaty Glyn-y-groes ger Llangollen yn gweld mwy nag adfeilion yr hen adeilad yr Haf hwn.
Mae Lucy Harvey wedi bod yn artist preswyl ar y safle ers mis Mawrth ac mae hi wedi cael ei hysbrydoli gan hanes yr Abaty a’r deunyddiau mae hi wedi dod o hyd iddyn nhw i greu cyfres o weithiau celf bach.
Mae Lucy Harvey, sy’n dod o Fanceinion yn wreiddiol, wedi defnyddio ei chyfnod preswyl i ymchwilio ac yn ymateb i dreftadaeth yr Abaty gan ysbrydoli dehongliadau newydd o’r safle a chysylltu treftadaeth y safle â’r tirlun cyfoes.
Meddai Lucy Harvey: “Mae Glyn-y-groes yn safle sy’n cynnig cymaint o ysbrydoliaeth ac roeddwn i am greu gweithiau celf bach sydd hefyd yn peri syndod i rywun.
“Mae’r darnau’n defnyddio lot o wahanol ddefnyddiau sy’n ymateb i’r mathau o bethau a fyddai wedi bod yma yn y cyfnod pan oedd yr Abaty ar waith, a’r ffordd dwi’n dehongli hynny hefyd, wrth reswm.”
Celf y cilfachau
Drwy ddarganfod y gwaith, sydd wedi’i osod mewn cilfachau a chorneli bach, gwahoddir yr ymwelwyr i edrych yn fanylach ar y crefftwaith a’r gwaith trwsio sydd i’w weld ym mhobman o amlygych yr adfeilion.
Dywedodd Lucy: “Dw i wedi defnyddio cymysgedd o fetelau gilt cain a defnyddiau llymach fel llechi am fod gen i ddiddordeb yn y newid mewn agweddau at addurno yn yr Abaty.
“Doedd y mynachod Sistersaidd ddim i fod i gael moethau ond fe gawson nhw, ac wrth gwrs, hyd yn oed heddiw rydyn ni’n cael ein tynnu at bethau addurnol.”
Mae yna wahoddiad hefyd i bobl ddod i ddau ddigwyddiad arbennig yn yr Abaty. Nos Iau nesaf am chwech yr hwyr bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i ymuno â Lucy ar daith anffurfiol o amgylch ei gwaith mewn Noson Agored Artist Preswyl fel rhan o Ŵyl Ymylon Llangollen.
Yna, ar ddydd Sadwrn 10 Awst rhwng 10am a 5pm, bydd modd gweld y diweddglo i gyfnod Lucy fel artist preswyl cyfryngau cymysg o amgylch yr adfeilion.