Mae adroddiad blynyddol S4C yn nodi y bu perfformiad y sianel yn 2012 “yn ganmoladwy” er nad oedd “holl agweddau newydd yr amserlen at ddant y gynulleidfa.”

Dywed yr adroddiad bod 5.3 miliwn o bobol trwy’r DU wedi gwylio’r sianel y llynedd.

Yn ôl yr adroddiad, mae S4C yn rhoi hwb o £124.3 miliwn i economi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru bob blwyddyn.

Yn ogystal â’r sianel, mae 201,000 o bobol yn ymweld â gwefan S4C bob mis.

Er gwaethaf ei chryfderau, noda’r adroddiad “nad oedd holl agweddau newydd yr amserlen at ddant y gynulleidfa”.

Drama oedd “un o elfennau cryfaf y gwasanaeth” yn 2012.

Ym maes chwaraeon, nododd nifer sylweddol o bobol mewn arolwg nad oedd gwasanaeth uchafbwyntiau’r sianel gystal â rhai o’r rhaglenni oedd yn cynnig darllediadau byw.

Er bod rygbi a phêl-droed yn cael cryn sylw, cyhoeddodd S4C na fydden nhw’n darlledu gornestau criced byw yn ystod tymor 2013.

‘Angen symleiddio’r iaith’

Nododd yr adroddiad y bu cwymp o 25% yn nifer y gwylwyr adeg y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, a hynny’n bennaf am nad oedd gan y sianel hawliau darlledu ar gyfer y ddau ddigwyddiad.

Cafodd y Gemau sylw gan S4C trwy raglenni newyddion a dogfen yn bennaf.

Ym maes newyddion, nododd nifer sylweddol o bobol fod angen i raglen Newyddion symleiddio iaith y newyddiadurwyr.

O ran is-deitlau, roedd safon yr iaith yn dda ar y cyfan, ond yn wan yn ystod rhaglenni byw.

‘Sefydlogi’r cwch’

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Roedd 2012 yn flwyddyn arall o newid yn hanes S4C ond y tro hwn yn un o sefydlogi’r cwch a pharatoi ar gyfer y dyfodol. “Roedd hefyd yn gyfnod o adfywio, gydag S4C a’r gymuned o gwmnïau a phobl sy’n creu cynnwys ar ei chyfer yn dod at ei gilydd i wynebu’r her greadigol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o S4C – y Prif Weithredwr a’i staff ac aelodau’r gweithlu o fewn y sector annibynnol a BBC Cymru – am gydweithio gydag ymroddiad ac egni i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr a chofiadwy.”

Mae modd gweld yr adroddiad llawn yma: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2012.pdf