Cory Monteith (Llun: Gwefan Glee)
Mae’r awdurdodau yng Nghanada wedi dweud mai gor-ddôs o heroin ac alcohol oedd yn gyfrifol am farwolaeth yr actor Cory Monteith.

Daethpwyd o hyd i gorff yr actor, fu’n chwarae rhan Finn Hudson yn y gyfres deledu boblogaidd ‘Glee’, mewn gwesty yn Vancouver ddydd Sadwrn.

Dywedodd y crwner mai ‘damwain drasig’ oedd ei farwolaeth.

Mae yna le i gredu ei fod e ar ei ben ei hun pan fu farw.

Doedd adroddiad y crwner ddim wedi nodi’r lefelau heroin ac alcohol oedd yn ei gorff pan gafodd ei ddarganfod.

Does dim sicrwydd eto a oedd yr heroin wedi’i wenwyno.

Roedd problemau cyffuriau Cory Monteith wedi’u nodi’n gyson yn y wasg, ac fe ddywedodd wrth gylchgrawn Parade yn 2011 ei fod e’n “lwcus i fod ar dir y byw”.

Roedd yn ddefnyddiwr marijuana cyson, ac roedd ei broblemau gyda chyffuriau “allan o reolaeth” pan oedd e’n 16 oed.

Derbyniodd driniaeth am ei broblemau cyffuriau ym mis Ebrill eleni.

Mae sêr fel Gwyneth Paltrow a Britney Spears wedi ymddangos yn y gyfres a ddechreuodd yn 2009.

Dywedodd cynhyrchwyr y gyfres fod Monteith yn berfformiwr “rhagorol” a’i fod e’n “berson hyd yn oed yn fwy rhagorol”.

Dywedodd asiant ei gariad a’i gyd-actor yn y gyfres, Lea Michele: “Ers marwolaeth Cory, mae Lea wedi bod yn galaru gyda’i deulu ac yn gwneud trefniadau priodol gyda nhw.

“Maen nhw’n cefnogi ei gilydd wrth iddyn nhw deimlo’r golled gyda’i gilydd.”