Mae Radio Cymru yn parhau i wynebu cyfnod o anghydfod tra bod BBC Cymru wedi perfformio’n gryf iawn, yn ôl adroddiad blynyddol y gorfforaeth.

Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC am 2012/13 yn dangos fod Radio Cymru wedi wynebu blwyddyn anodd iawn gyda’r anghydfod dros hawliau darlledu â’r gymdeithas gasglu Cymraeg, Eos yn parhau.

Fe wnaeth Cyngor Cynulleidfaoedd Cymru, sy’n cynghori Ymddiriedolaeth y BBC ar berfformiad, ddatgan eu pryder ynglŷn â diffyg derbyniad radio DAB yng Nghymru a’r angen am fwy o raglenni wedi eu gwneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Ond er y pryderon, roedd allbwn BBC Wales ar BBC1 Wales a BBC2 Wales yn parhau i gynyddu gan gyrraedd bron i filiwn o wylwyr, tra bod tudalennau  gwefan BBC Cymru Wales yn derbyn 2.7 miliwn o ymwelwyr bob wythnos.

Mae’n ymddangos hefyd fod y bartneriaeth rhwng y BBC a S4C wedi mynd o nerth i nerth, yn enwedig o safbwynt cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith. Mae’r adroddiad yn casglu fod y Cytundeb Gweithredu newydd rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C yn sicrhau annibyniaeth olygyddol a gweithredol S4C.

Dywedodd Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens: “Mae BBC Cymru Wales wedi cael blwyddyn dda, er gwaethaf amser caled iawn i’r BBC yr Hydref diwethaf. Ond gall BBC Cymru Wales fynd hyd yn oed ymhellach ac fel mae ein Cyngor Cynulleidfa wedi ei amlygu, mae angen gweithio ar rai meysydd allweddol eleni.”

Mae’r adroddiad yn tanlinellu cyfraniad Cymru i allbwn darlledu ehangach y BBC gan gynnwys cyfraniad stiwdios Porth y Rhâth wrth gynhyrchu rhaglenni megis Dr Who a Casualty.