Mae’r BBC wedi gwario oddeutu £5 miliwn ar yr ymchwiliad i helynt Jimmy Savile.
Mae ffigyrau yn adroddiad blynyddol y gorfforaeth yn dangos fod tua hanner y £5 miliwn wedi ei wario ar Adolygiad Pollard a oedd yn edrych ar benderfyniad y BBC i beidio darlledu adroddiad Newsnight i honiadau o gam-drin rhywiol gan y cyn-gyflwynydd teledu.
Fe gostiodd Ymchwiliad Pollard £2.4 miliwn gan gynnwys £101,000 o ffioedd cyfreithiol y cyn-Bennaeth Newyddion Helen Boaden a ymddiswyddodd yn dilyn y sgandal. Cafodd hi ei beirniadu’n hallt yn yr adolygiad.
Mae’r ffigurau’n dangos bod yr adolygiad ac ymchwiliadau pellach i’r diwyllaint oedd yn bodoli pan oedd Savile yn gweithio yno wedi costio £4.9 miliwn.
Yn yr adroddiad blynyddol, dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten fod y cyfnod dan sylw yn un o’r adegau gwaethaf i’r BBC.
Meddai: “Fe wnaeth y BBC siomi ei hun yn ogystal â’r bobl sy’n talu’r drwydded.”
Dywedodd hefyd fod llwyddiant ysgubol y Gemau Olympaidd wedi cael ei ddilyn gan sgandal Jimmy Savile a bod hynny wedi dangos y BBC mewn golau gwahanol.