Y Gadair
Mewn digwyddiad arbennig yn Nolgellau neithiwr fe gafodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl.
Mae’r Gadair yn cael ei rhoi eleni am awdl neu gyfres o gerddi mewn cynghanedd ar y testun ‘Lleisiau’ a’r beirniaid yw Gerallt Lloyd Owen, Peredur Lynch a Myrddin ap Dafydd.
Mae’r Gadair a’r wobr ariannol yn cael eu cyflwyno er cof am John a Ceridwen Hughes, Uwchaled.
Wrth dderbyn y gadair dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, John Glyn Jones: “Mae derbyn y Gadair hon a ninnau o fewn wythnosau i’r Brifwyl yn un o uchafbwyntiau dros ddwy flynedd o waith i ddod â’r Eisteddfod i Sir Ddinbych a’r Cyffiniau. Rydw i’n eithriadol o falch i fod yma heddiw i dderbyn y Gadair hon gan y noddwyr eleni.”
Fe gafodd y Gadair ei dylunio a’i chynhyrchu gan Dilwyn Jones o Faerdy ger Corwen ac mae’n brofiadol iawn yn y maes, gan iddo gynhyrchu nifer o gadeiriau ar gyfer Eisteddfodau dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd: “Rwy’n credu’n gryf bod angen i Gadair fod yn adlewyrchiad o ddalgylch yr Eisteddfod yn ddathliad parhaol o’r ardal lle y cynhaliwyd y Brifwyl. Cadair o bren derw yw hon eleni, wedi’i ffurfio i gynrychioli tirlun naturiol Sir Ddinbych o’r môr i’r Mynyddoedd.”
Mae Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar gyrion tref Dinbych rhwng 2 – 10 Awst a bydd Seremoni’r Cadeirio yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener olaf y Brifwyl am 4.30yh.