Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi’i dderbyn yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn ystod seremoni raddio’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu heddiw.

Graddiodd Ian Jones mewn Economeg o Brifysgol Aberystwyth cyn mentro i fyd y cyfryngau.

Bu’n allweddol yn y broses o sefydlu S4C yn 1982.

Gweithiodd i ITV fel cynhyrchydd annibynnol cyn dychwelyd i S4C yn Gyfarwyddwr Busnes S4C Rhyngwladol a Chydgynhyrchu yn 1992.

Mae ganddo brofiad helaeth o weithio yn y cyfryngau ledled y byd.

Bu’n gweithio i Scottish Television, United News and Media, ITEL a Granada (ITV Global erbyn hyn).

Bellach, mae’n Gadeirydd Cymdeithas Diwydiant Dosbarthu Teledu Prydain (BTDA).

Yn y gorffennol, fe fu’n llywydd ar National Geographic Television International, ac wedyn yn Rheolwr-Gyfarwyddwr Target Entertainment.

Bu’n gweithio i A+E Television yn Efrog Newydd cyn cael ei benodi i S4C am yr ail dro.

Un sy’n gwrando

Wrth gyflwyno’r radd, dywedodd Dr Elin Haf Gruffydd Jones: “Wrth iddo gyflwyno ei weledigaeth ar gyfer S4C, mae uchelgais Ian Jones dros y sianel yn amlwg.

“Mae o’n arweinydd hyderus sydd yn gwrando yn ogystal â siarad, sydd yn cyfathrebu’n glir ac sydd yn credu mewn dirprwyo wrth iddo rheoli.

“Mae o’n gyson yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth; partneriaeth gyda’r gynulleidfa a phartneriaeth gyda phob sector sydd yn cyfrannu at greu cynnwys.

“Mae’r Brifysgol hon, ac yn enwedig Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, yn falch iawn o’r cyfleoedd sydd gennym ni i gydweithio gydag S4C.

“Mae nifer o’r rhai sydd yma heddiw yn graddio wedi elwa’n uniongyrchol o’r berthynas yma – ac yn ystod eu hastudiaethau wedi cael lleoliad gwaith, cyfleoedd i ymchwilio ac astudio’r diwydiant yma yng Nghymru, a rhai eisoes wedi cael cynnig swyddi.”