Mae’r darlledwr Alan Whicker, a oedd yn enwog am deithio’r byd yn gwneud rhaglenni teledu am bron i 60 o flynyddoedd, wedi marw’n 87 oed.
Bu’n diodde’ o niwmonia, a bu farw yn ei gartref.
Roedd fwyaf enwog am ei gyfres Whicker’s World, a roddai ddarlun o fywydau egsotig yr enwog a’r cyfoethog.