Mae trefnwyr Gŵyl Golwg ar 7 Medi wedi cyhoeddi’r enwau mawr cynta’ ar gyfer rhannau o’r digwyddiad arloesol i ddathlu chwarter canrif y cylchgrawn Golwg.
Fe fydd wynebau cyfarwydd a wynebau newydd ochr yn ochr – yn unol ag ysbryd yr ŵyl sy’n edrych ymlaen i’r dyfodol yn ogystal â dathlu 25 mlynedd o lwyddiant.
Cyhoeddwyd heddiw rai o’r enwau fydd yn ffurfio rhaglen adrannau ‘Y Babell Roc’, y ‘Stafell Sgwrsio’ ac ‘Y Cwmwl’ yn yr ŵyl, gydag addewid o ragor o enwau dros yr wythnosau nesaf.
Roc acwstig
Y Babell Roc fydd elfen gerddorol ar gampws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan ac ymysg yr artistiaid fydd yn gwneud setiau acwstig yno mae Fflur Dafydd, Gildas, Kizzy Crawford a Siddi.
Mae Siddi a Gildas yn perfformio wedi llwyddiant eu halbymau diweddar, tra bod Fflur Dafydd a Kizzy Crawford yn ddwy gantores â chysylltiadau lleol cryf – daw Fflur o Landysul a Kizzy’n wreiddiol o Aberaeron.
Roedd tad, Fflur, Wynfford James yn un o’r ffigurau allweddol wrth sefydlu Golwg a’i mam, y bardd Menna Elfyn, yn un o banel ymgynghorol y cylchgrawn yn y dyddiau cynnar.
Sgyrsiau amrywiol
Un o elfennau amlycaf yr ŵyl fydd y ‘Stafell Sgwrsio’ lle bydd amrywiaeth eang o sgyrsiau difyr. Ymysg y rheiny bydd:
– ‘Y Stori Dditectif’ – sgwrs am y genre ditectif hynod boblogaidd gyda’r awdur nofelau ditectif Geraint Evans o Dal y Bont ac uwch gynhyrchydd cyfres deledu newydd Y Gwyll, Ed Thomas dan arweiniad yr awdur Ifan Morgan Jones.
– ‘Golwg ar Golwg’ – Vaughan Roderick fydd yn holi Golygydd Gyfarwyddwr a sylfaenydd Golwg, Dylan Iorwerth, am hanes y cylchgrawn
– ‘Blas ar Blasu’ – sgwrs gydag un o awduron ifanc mwyaf poblogaidd Cymru, Manon Steffan Ros.
Dathlu’r dyfodol
Er bod yr ŵyl yn gyfle i edrych nôl ar y chwarter canrif diwethaf, bydd sesiynau digidol ‘Y Cwmwl’ yn canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol. Ymysg y sesiynau yn yr adran hon bydd Elliw Gwawr yn trafod ei blog llwyddiannus ‘Paned a Chacen’; Emma Meese yn cynnal dosbarth meistr ar saethu ffilm gyda dyfais symudol; a thrafodaeth banel arbennig yn trafod newyddion digidol lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Amrywiaeth
“Mae gwahanol elfennau’r digwyddiad yn gwneud hon yn ŵyl unigryw iawn yn y Gymraeg” meddai’r trefnydd Owain Schiavone.
“Rydym yn cyfuno setiau cerddorol gyda sgyrsiau llenyddol difyr, tra bod pwyslais ein sesiynau digidol ar annog pobl i greu mwy o gynnwys Cymraeg yn ddigidol. Mae’r amrywiaeth yn gyffrous iawn a dwi’n amau y bydd yn anodd i bobl benderfynu rhwng sesiynau.”
“Wrth gwrs, dim ond rhan o’r arlwy ydy hyn – mae llawer iawn mwy i ddod!”
Prif noddwr yr ŵyl ydy Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a bydd Adran Gelf y Brifysgol yn cyfrannu at y gweithgarwch wrth i staff a myfyrwyr gynnal gweithdai celf amrywiol i blant yn ystod y dydd.