Ffrwydriad yn Syria
Mae bom car yn ninas fwya’ Syria wedi lladd 12 o filwyr y llywodraeth, ac mae ffrwydriad arall yn y brifddinas wedi lladd o leia’ dri o bobol.

Fe ffrwydrodd y bom yn Damascus y tu ôl i fecws yn ardal Ruken al-Deen y brifddinas. Mae 10 o bobol wedi’u hanafu, a does neb wedi hawlio cyfrifoldeb eto.

Yn Aleppo, fe gafodd 12 o filwyr yr arlywydd, Bashar Assad, eu lladd can fom car ar gyrion y ddinas.

Mae’r ymosodiadau hyn yn cyd-daro â chyfarfod grwp o 11 o wledydd y byd sy’n cynnwys yr Unol Daleithiau, sy’n galw eu hunain yn ‘Gyfeillion Syria’. Maen nhw’n ceisio penderfynu ar y ffordd orau o roi cymorth i wrthwynebwyr Assad.