Mae bos y Post Brenhinol wedi derbyn pecyn cyflog gwerth o leia’  £1.5m eleni, yn ôl adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon.

Ac mae’n beryg y bydd y cyhoeddiad yn rhoi olew ar y tân go iawn i staff, wrth i’r cwmni gael ei breifateiddio.

Roedd cyflog Moya Greene yn £1.1m ddiwedd Mawrth 2012 – a hynny’n cynnwys bonws o £371,000, taliadau pensiwn o £200,000 a buddion o £38,000.

Mae’n beryg y bydd yr adroddiad am eleni’n dangos ei bod wedi ennill £488,000 yn ychwanegol yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth 2013 – a hynny am gyrraedd targedau penodol.

Staff

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu rhoi’r Post Brenhinol ar y Farchnad Stoc yn ddiweddarach eleni, ond mae gweithwyr yn gwrthod y syniad yn gry’ iawn.

Mae pleidlais o 112,000 o’u postmyn, eu staff swyddfeydd dosbarthu a gweithwyr eraill sy’n aelod o’r undeb CWU, wedi dangos fod 96% ohonyn nhw’n erbyn y syniad o werthu’r cwmni.