Protest yn Ninas Mecsico
Y llynedd, fe gyhoeddodd cyn-Arlywydd Mecsico fod y wlad yn datblygu i fod yn wlad ddosbarth canol. Ond mae’r ystadegau diweddara’n awgrymu fod Felipe Calderon yn anghywir.

Mae adroddiad gan Sefydliad Cenedlaethol Ystadegau a Daearyddiaeth ym Mecsico, yn dweud fod bron i 60% o 112 miliwn o boblogaeth y wlad yn dal i berthyn i’r dosbarthiadau cymdeithasol isa’.

Mae’n dweud fod y dosbarth canol wedi tyfu o rhyw 4%, i bron iawn 40% o’r boblogaeth rhwng 2000 a 2010. Dim ond 1.7% o’r boblogaeth sy’n cael ei ystyried yn “ddosbarth uwch”.