Mae chwaer newyddiadurwr o China wedi cyhuddo swyddogion cudd-wybodaeth y wlad o gipio ei brawd.

Mae Du Bin wedi diflannu yn ddiweddar, ar ôl gorffen gweithio ar raglen ddogfen ar y modd y mae pobol yn cael ei cam-drin mewn gwersylloedd gwaith yn y wlad.

Mae Du Jirong, chwaer y ffotograffydd o Beijing, yn dweud fod swyddog yn y swyddfa heddlu yn You’anmen wedi dweud wrthi fod ei brawd yn cael ei gadw ar orchymyn swyddogion diogelwch.

Mae ffrindiau’r ffotograffydd hefyd yn dweud fod cysylltiad amlwg rhwng ei waith yn codi cwr y llen ar yr arteithio sy’n digwydd mewn gwersylloedd gwaith yn China, yn ogystal â’i waith diweddar yn casglu a dogfennu profiadau o’r protestiadau yn Sgwâr Tiananmen yn 1989.