Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i ddyn arall farw ac i wraig gael ei chludo i’r ysbyty.

Fe gafodd yr heddlu eu galw allan toc cyn tri o’r gloch fore heddiw yn dilyn adroddiadau fod gwraig wedi’i thrywanu mewn ty yn Saturn Road, Ipswich.

Fe ddaethon nhw o hyd i ddyn wedi’i drywanu, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Ipswich, ble y bu farw.

Aethpwyd â gwraig o’r un ty i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau i’w choes.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Suffolk: “Fe gafodd dyn 37 oed o Ipswich ei arestio yn y fan a’r lle gan swyddogion, ac mae wedi’n dal i fod yn ein Canolfan Ymchwilio yn Martlesham.”