Mae gweithiwr olew o wledydd Prydain a gafodd ei herwgipio yn Indonesia, wedi ei ddychwelyd yn ddiogel at ei deulu, ar ôl deuddydd.
Fe gafodd y peiriannydd, Malcolm Primrose, 61, ei ryddhau gan y giang arfog yn ardal Aceh tua 6 o’r gloch fore heddiw.
Roedd heddlu wedi bod yn chwilio amdano wedi i’r driliwr profiadol gael ei herwgipio gan tua chwech o ddynion wrth iddo deithio gartre’ o’r gwaith ddydd Mawrth.
Fe ddaethpwyd o hyd i Mr Primrose ar ei ben ei hun wedi i’r giang roi’r gorau i fynnu £320,000 (mewn doleri America) amdano.
Mae ei gyflogwyr, Medco E&P, wedi cadarnhau ei fod wedi dychwelyd yn ddiogel at ei deulu.