Fe gafodd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau wedi ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn nhref Dinbych neithiwr.
Yr artist a’r gemydd lleol, Andrew Coomber, sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Goron. Dyma’r tro cyntaf iddo greu Coron yr Eisteddfod Genedlaethol.
Eleni, cyflwynir y Goron am gyfres o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell dan y teitl ‘Terfysg’. Y beirniaid yw Geraint Lloyd Owen, Ceri Wyn Jones a John Gruffydd Jones.
Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan ddelweddaeth a lliw ardal amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau, ac mae’n adlewyrchu gwerthoedd telynegol y tirwedd mewn harmoni gyda thechnoleg a deunyddiau modern.
Mae cynllun y Goron eleni yn anghyffredin oherwydd y defnydd o liwiau yn y cynllun.
“Mae tua 150 o ddarnau unigol yn y Goron eleni, wedi’u cyd-osod gan ddefnyddio nytiau a bolltau bychain, yn atgyfnerthu’r cysyniad o beirianneg yn y tirwedd,” meddai Andrew Coomber.
“Mae dehongliad gwydr o Dwr y Jiwbili ar Moel Famau wedi’i osod ar ben y Goron, ac mae’r ‘waliau’ crisial wedi’u enamlo gyda’r gair ‘bardd’ yn cael ei ailadrodd mewn patrwm wal garreg.”