Mae pump o bobol wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dylunydd gemwaith a phrynwr antîcs, wedi i’w gorff gael ei ganfod yn llosgi yn ei gartref gwledig.

Roedd Michael Griffiths, 59, wedi diodde’ anafiadau difrifol i’w ben a’i gorff pan ddaeth ymladdwyr tân o hyd iddo ar Ionawr 24 eleni.

Roedd Mr Griffiths yn byw ar ei ben ei hun yn Fernhurst, Gorllewin Sussex, ac roedd yn ddyn poblogaidd yn lleol.

Mae Gary King, 52, o Broadstairs, Kent; Simon Penton, 42, o Sunbury-on-Thames, Middlesex; Harvey Munford, 22, o Staines-upon-Thames; Kerry Rudder, 42, o Sunbury-on-Thames; a Damian Krafft, 26, o Shepperton, bob un wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth, o gynllwynio i fwrglera gyda’r bwriad o ddwyn, ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae chweched unigolyn, Rebecca Rogers, 39, o Shepperton, wedi cael ei chyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fyddan nhw i gyd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Worthing yn ddiweddarach heddiw.