Nick Clegg
Fe fydd Dirprwy Weinidog llywodraeth Prydain, Nick Clegg, yn gorfod wynebu cwestiynau anodd heddiw ynglyn â’r modd y deliodd â honiadau o ymyrryd yn rhywiol o fewn ei blaid.
Fe ddylai Nick Clegg fod wedi gorchymyn ymchwiliad ffurfiol i’r honiadau yn erbyn cyn-Brif Weithredwr y Democratiaid Rhyddfrydol, yr Arglwydd Rennard, yn ôl adroddiad annibynnol ar y modd y cafodd y cwynion eu handlo.
Mae awdur yr adroddiad, Helena Morrissey, hefyd wedi enwi’n benodol y gweinidogion yn y blaid, Jo Swinson a Danny Alexander, am y modd anffurfiol y gwnaethon nhwthau ystyried yr honiadau. Doedd hynny “ddim yn ddigon da”, yn ôl Helena Morrissey.
Mae Nick Clegg wedi cydnabod fod darllen adroddiad Ms Morrissey “yn sobreiddio rhywun”, ac mae wedi derbyn cyfrifoldeb am fethu â dilyn y prosesau cywir er mwyn cefnogi’r gwragedd a ddaeth yn eu blaenau i wneud yr honiadau.
“Fe gafodd camgymeriadau eu gwneud,” meddai Helena Morrissey. “Fe gawson nhw eu gwneud gan Nick Clegg, Danny Alexander a Jo Swinson.
“Dw i’n meddwl fod modd gwneud camgymeriadau a dysgu oddi wrth y rheiny,” meddai wedyn. “Mae yna wahaniaeth rhwng hynny a cheisio camarwain neu wneud rhywbeth yn anghywir.”
Fe ddaeth pedair o wragedd ymlaen i wneud honiadau’n erbyn yr Arglwydd Rennard.
Mae Scotland Yard ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r cyhuddiadau hynny, ac mae ymchwiliad mewnol gan y Democratiaid Rhyddfrydol bellach ar stop nes y bydd ymholiadau’r heddlu wedi’u cwblhau.