Roedd crys-T Caroline Lucas yn condemnio Tudalen 3 papur The Sun
Mae unig Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas wedi cael ei dwrdio mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin am wisgo crys-t gyda’r geiriau ‘No more page three’ arno.

Roedd Caroline Lucas yn siarad mewn dadl ar ryw a’r cyfryngau pan dynnodd ei siaced a datgelu ei chrys. Mae’n dadlau y dylai papur newydd y Sun gel ei “yrru i’r bin sbwriel”.

Mae Caroline Lucas yn dadlau nad yw cynnwys tudalen 3 y papur yn addas, o gysidro fod oddeutu 7.5 miliwn o bobol yn ei ddarllen yn ddyddiol.

Ond fe orchmynnodd Cadeirydd y ddadl, yr Aelod Seneddol Jim Hood, y dylai Caroline Lucas wisgo ei siaced gan gydymffurfio â chôd gwisgo San Steffan.

Dywedodd Caroline Lucas, “Mae’n fy nharo i ychydig yn eironig fod y crys-t yma yn cael ei gysidro fel dilledyn anaddas i’w wisgo yn y Tŷ Cyffredin tra bod modd prynu papur y Sun mewn wyth lle gwahanol ym Mhalas San Steffan.”