Mae miloedd o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi yn yr Almaen yn dilyn rhagor o lifogydd mewn nifer o drefi ger afon Elbe.
Fe fu’n rhaid i 8,000 adael eu cartrefi yn nhref Stendal yn rhanbarth Saxony-Anhalt.
Mae hofrenyddion wedi bod yn cludo sachau tywod er mwyn ceisio atal llif yr afon ger tref Fischbeck yn yr un rhanbarth.
Yn rhanbarth Schleswig-Holstein, cafodd pobol eu symud o’u cartrefi yn nhref Lauenberg ger Hamburg wrth i lefel yr afon godi.
Roedd yna newyddion gwell yn ne’r wlad, wrth i’r awdurdodau allu dechrau ar y gwaith o glirio’r difrod.
Mae’r awdurdodau’n amcangyfrif fod gwerth mwy na 11 biliwn Ewro o ddifrod (£9.4 biliwn) wedi’i achosi.
Hyd yma, mae 22 o bobol wedi marw wrth i’r llifogydd daro’r Almaen, Gweriniaeth Tsiec, Awstria, Slofacia a Hwngari.