Tim Yeo
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Tim Yeo wedi penderfynu peidio parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd tra bod ymchwiliad i’w ymddygiad yn parhau.
Mae e wedi’i gyhuddo o ddefnyddio’i statws fel aelod seneddol i helpu cleientiaid busnes.
Dywedodd mewn datganiad neithiwr ei fod e wedi gwneud y penderfyniad er lles y pwyllgor, ond mae’n gwadu torri unrhyw reolau seneddol, ar ôl siarad â gohebydd o’r Sunday Times.
Yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Syr Robert Smith sy’n cymryd ei le dros dro fel Cadeirydd y pwyllgor.
Mewn datganiad, dywedodd y pwyllgor: “Mae’r pwyllgor wedi penderfynu’n unfrydol i dderbyn argymhelliad y Cadeirydd ei fod e’n absenoli’i hun o’r pwyllgor yn ystod cyfnod ymchwiliad y Comisiynydd Safonau Seneddol.”
Cafodd ei recordio gan y papur newydd yn dweud y gallai ddefnyddio’i ddylanwad er lles cwmnïau preifat.
Dywedodd na fyddai’n rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd ond fe wnaeth dro pedol.
Mae’r blogiwr Paul Staines wedi gofyn i Heddlu Llundain ymchwilio i’r mater.
Dangosodd fideo’r papur newydd fod Tim Yeo wedi hyfforddi cleient i ddylanwadu ar bwyllgor.
Roedd wedi cael cynnig £7,000 gan newyddiadurwyr oedd yn esgus gweithio i gwmni ynni, i greu deddfau newydd er lles busnesau.
Fydd e ddim yn derbyn ei gyflog fel Cadeirydd yn ystod yr ymchwiliad.