Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nglanrafon, Wrecsam toc wedi hanner nos neithiwr.

Cafodd gyrrwr  beic modur Suzuki glas ei anafu’n ddifrifol yn y ddamwain.

Dywedodd PC Andrew Pritchard: “O ganlyniad i’r gwrthdrawiad, cafodd gyrrwr y Suzuki, dyn lleol yn ei 40au, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

“Er gwaethaf y lleoliad anghysbell a’r amser, rwy’n dal yn obeithiol y bydd tystion yn gallu cynorthwyo ein hymchwiliad i’r gwrthdrawiad.

“Hoffwn glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal y diwrnod hwnnw a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw ddigwyddiad a arweiniodd ato, i gysylltu â mi.”

Mae’r heddlu yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.