Nelson Mandela
Mae cyn Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, yn treulio’i bedwerydd diwrnod yn yr ysbyty, lle mae’n cael ei drin am haint ar yr ysgyfaint.

Nid oedd unrhyw ddiweddariad swyddogol ar gyflwr y gŵr  94 ​​mlwydd oed y bore yma ond dywedodd y Llywodraeth ddoe ei fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Treuliodd Nelson Mandela, arweinydd y mudiad gwrth apartheid, 27 mlynedd yn y carchar. Cafodd ei rhyddhau yn 1990 a chafodd ei  ethol yn arlywydd du cyntaf De Affrica yn 1994.

Mae’n cael ei drin mewn ysbyty yn y brifddinas, Pretoria.