Cerys Potter
Mae pedwar dyn yn Nhwrci wedi cael eu dedfrydu i garchar am bum mlynedd a hanner yr un am achosi marwolaeth merch o Gymru.
Bu farw Cerys Potter, oedd yn naw mlwydd oed ac yn dod o Lancarfan ym Mro Morgannwg, wrth rafftio ar afon yn ne Twrci yn 2010.
Mewn llys yn Nhwrci ddoe, cafwyd dau berchennog a dau weithiwr gyda Marmaris Tours, y cwmni oedd yn trefnu’r gweithgaredd, yn euog o achosi ei marwolaeth drwy ddiofalwch.
Clywodd y llys bod naw o ymwelwyr eraill wedi marw mewn amgylchiadau tebyg ar yr afon.
Mae gan y pedwar dyn 10 diwrnod i apelio yn erbyn y ddedfryd.
Wrth siarad ar Radio Wales o Dwrci bore ma, dywedodd tad Cerys Potter, Terry, “na fyddai’r un ddedfryd yn ddigon hir.” Mae wedi dechrau ymgyrch i geisio gwella mesurau diogelwch ar yr afon lle bu farw ei ferch.