Protest gan EDL
Mae’r English Defence Leage (EDL) wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am gynnau tân mewn canolfan Islamaidd yng ngogledd Llundain yr wythnos diwethaf.

Cafodd y llythrennau ‘EDL’ eu paentio ar ochr yr adeilad cyn i’r tân ddechrau yn Muswell Hill.

Mae nifer yr ymosodiadau ar ganolfannau Islamaidd a mosgiau wedi cynyddu ers i’r milwr Lee Rigby gael ei lofruddio yn Woolwich.

Dywedodd arweinydd yr EDL, Tommy Robinson wrth raglen Today ar Radio 4: “Os cafodd rhywbeth ei roi ar dân a bod rhywun wedi ysgrifennu David Cameron ar ei ochr, ydy hi’n golygu mai fe wnaeth?

“Mae’n ymddangos yn warthus i fi ac rwy’n credu y gall pawb weld trwyddo fe, ei fod e wedi cael ei wneud er mwyn gwneud iddi edrych fel mai’r English Defence League wnaeth e.

“Os ydw i’n onest, rwy’n hollol sinigaidd mai pobol nad ydyn nhw’n Fwslemiaid wnaeth e.”

Dywedodd nad yw ei grŵp o blaid dulliau treisgar, ac mai trwy ddulliau democratiaid y dylen nhw weithredu.

“Yr hyn rwy’n ei ddweud yw nad oes gan y gymuned dosbarth gweithiol nad ydyn nhw’n fwslemiaid lais.

“Ble fydd y cyfan yn gorffen? Fydd e ddim yn gorffen yn gyfeillgar, na fydd, pan edrychwch chi ar yr hyn sy’n digwydd.”

Ysgol fonedd

Yn y cyfamser, mae pedwar o bobol yn eu harddegau gafodd eu harestio ddoe ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol mewn ysgol fonedd yn Chislehurst yn ne ddwyrain Llundain, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y pedwar – sy’n 17 a 18 oed – eu holi gan yr heddlu ddoe.

Cafodd 130 o athrawon a phlant eu symud o’r adeilad yn Ysgol Islamaidd Darul Uloom, wrth i’r athrawon fynd ati i ddiffodd y fflamau.

Cafodd dau fachgen eu trin am effeithiau anadlu mwg.

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Mustafa Musa fod pobol wedi mynd ar dir yr ysgol a chynnau’r tân, ond does dim awgrym eto a wnaethon nhw dorri i mewn i’r ysgol.