Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gallai nifer yr achosion o glwy’r pennau gynyddu yng Nghymru.

Maen nhw wedi ategu eu galwad ar bobol Cymru i sicrhau eu bod nhw’n derbyn brechlyn MMR yn sgil epidemig y frech goch.

Roedd yna 20 o achosion newydd o’r frech goch yn ystod yr wythnos diwethaf, gyda’r ffigwr bellach wedi cyrraedd 1,191.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi atgoffa pobol fod dau ddos o’r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag clwy’r pennau yn ogystal â’r frech goch.

Roedd yna 76 o achosion o glwy’r pennau yng Nghymru erbyn diwedd mis Mai, o’u cymharu â 77 o achosion trwy gydol 2011, ac 88 o achosion trwy gydol 2012.

Mae 50,000 o bobol wedi derbyn brechlyn MMR ers yr achosion cyntaf o’r frech goch ym mis Tachwedd y llynedd, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dal i dargedu plant 10 i 18 oed, sy’n debygol o ddioddef waethaf.

Mae 35,000 o blant yn y grŵp oedran yma heb eu brechu o hyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Marion Lyons: “Mae achosion o glwy’r pennau’n aml iawn yn ymddangos ymhlith plant hŷn a’r rhai yn eu harddegau ac mae yna bryder gwirioneddol, tra bod gyda ni rhy ychydig o bobol 10 i 18 oed sydd heb eu brechu ag MMR yng Nghymru, eu bod nhw’n wynebu’r risg o gael clwy’r pennau yn ogystal â’r frech goch.

“Mae clwy’r pennau bob amser yn cylchdroi yng Nghymru ond mae nifer yr achosion rydyn ni wedi’u gweld eleni’n arbennig o uchel.

“Mae’n bwysig i bobol ifanc a’u rhieni fod yn ymwybodol y gall fod yn haint difrifol.”

Mae clwy’r pennau’n cael ei ddal trwy salifa rhywun sydd wedi’i heintio.

Gall achosi pen tost a thwymyn ac ymhen ychydig ddiwrnodau, chwyddo poenus i’r chwarennau yn y gwddf ar un neu ddwy ochr.

Gall yr achosion mwyaf difrifol arwain at lid yr ymennydd a chwyddo’r ceilliau.

Ychwanegodd Marion Lyons: “Mae’r neges yn parhau’r un fath, fod yr heintiau hyn yn gallu bod yn ddifrifol iawn ac mae unrhyw un sydd heb ei frechu’n llawn yn wynebu risg.”