Mae cyflogau yng Nghymru wedi gostwng 8% er dechrau’r argyfwng economaidd yn 2007, yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur (TUC).

Dywed y TUC bod cyfanswm  cyflogau £2.3 biliwn yn llai er bod yr un faint  o bobl yn gweithio heddiw ag oedd  yn 2007.

Mae’r TUC yn credu bod nifer o resymau dros y gostyngiad sef bod cyflogau’n is na graddfa chwyddiant; pobl yn symud tuag at lai o oriau gwaith, gan gynnwys gwaith rhan-amser; a disodli swyddi oedd yn talu’n dda yn y sector cyhoeddus gyda swyddi sy’n cynnig cyflogau is yn y sector preifat.

Dywedodd y TUC bod  cyfanswm cyflogau dros y DU wedi gostwng 7.5% yn yr un cyfnod ac mai’r gogledd orllewin sydd wedi gweld y cwymp mwyaf gyda 10.6%.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady: “Dros y pum mlynedd diwethaf, mae pobl wedi dioddef gostyngiadau anferth yn eu cyflogau tra bod miliynau wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith neu gymryd gwaith gyda chyflog is. Hefyd, mae llawer o bobl wedi colli eu swyddi yn gyfan gwbl.

“Mae cyflogau isel Prydain yn amharu ar safonau byw pobl, yn dal busnesau yn ôl ac yn niweidio ein rhagolygon twf. Mae Prydain angen codiad cyflog.

“Mae angen i gyflogwyr, a llywodraethau lleol a chanolog,  gydnabod pwysigrwydd cyflogau da i sicrhau twf economaidd cynaliadwy. Gallant ddechrau drwy ddod yn gyflogwyr cyflog byw a bod yn fwy tryloyw ynghylch eu systemau cyflog.”