Mae cannoedd o swyddogion yr heddlu wedi dechrau symud heibio baricedau lle mae protestwyr wedi bod yn meddiannu Sgwâr Taksim yn Istanbul ers wythnos.
Roedd yr heddlu wedi gwthio’n hawdd heibio i’r baricedau ac mae llawer o’r protestwyr wedi cael eu gwthio nôl i barc cyfagos.
Taniodd yr heddlu nwy dagrau a bwledi rwber i’r sgwâr gan olygu bod nifer o’r protestwyr wedi ffoi’r sgwâr i Barc Gezi, lle mae llawer wedi bod yn gwersylla.
Fe wnaeth rhai o’r ymgyrchwyr hyrddio tân gwyllt, bomiau tân a cherrig at yr heddlu.
Dechreuodd y protestiadau mwyaf yn erbyn y llywodraeth yn Nhwrci ers degawdau ar Mai 31 ar ôl ymgyrch treisgar gan yr heddlu yn erbyn protestwyr heddychlon oedd yn gwrthwynebu prosiect i adeiladu ar safle’r parc.