Mae ASau wedi codi pryderon ynglŷn â rhuthro tuag at systemau arholiadau ar wahân yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan ddweud y byddai cam o’r fath yn “anffodus”.
Dylai’r tair gwlad barhau i redeg cymwysterau TGAU a Lefel A, yn ôl adroddiad newydd gan bwyllgor addysg San Steffan.
Daeth yr adroddiad wythnosau’n unig wedi i Michael Gove ysgrifennu at weinidogion addysg yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn awgrymu bod y gwahaniaethau mewn diwygio arholiadau yn golygu ei bod hi’n bryd i’r gwledydd fynd eu ffordd eu hunain – ond mae gwahaniaethau eisoes yn dod i’r amlwg ynghylch sut y bydd pob gwlad yn gwneud hyn.
Mae’r pwyllgor dethol o ASau hefyd wedi dweud y dylai gweinidogion a’r corff rheoleiddio arholiadau yn Lloegr, Ofqual, ystyried barn arbenigwyr wrth ddiwygio’r system ac na ddylen nhw anwybyddu unrhyw bryderon sy’n codi.
‘Cyfres o gamgymeriadau’
Mae adroddiad y pwyllgor dethol yn dilyn yr helynt am yr arholiad TGAU Saesneg ym mis Awst y llynedd, yn sgil honiadau bod degau o filoedd o fyfyrwyr wedi cael graddau is na’r disgwyl ar ôl i ffiniau’r graddau gael eu newid ynghanol y flwyddyn.
Dywed yr adroddiad bod y cymwysterau wedi eu cynllunio’n wael, ac mae’n rhoi’r bai ar “gyfres o gamgymeriadau yr oedd modd eu hosgoi” pan gafodd y cyrsiau newydd eu datblygu gan y llywodraeth flaenorol.
Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cael y penderfyniadau’n iawn wrth ddatblygu’r arholiadau, meddai’r adroddiad.
Heddiw mae disgwyl i fanylion y diwygiad mwyaf radical o gymwysterau TGAU yn Lloegr ers cenhedlaeth gael ei gyhoeddi.
Mae disgwyl i’r cynigion newydd gynnwys cynlluniau i gael gwared a gwaith cwrs yn y mwyafrif o bynciau, cyflwyno arholiadau diwedd cwrs, cyfyngu ar ailsefyll arholiadau ac ailwampio’r system graddio.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg San Steffan Michael Gove y byddai newidiadau mawr i bynciau TGAU yn Lloegr yn gynharach eleni, ar ôl iddo roi’r gorau i gynlluniau i’w disodli gyda Thystysgrifau Bagloriaeth Saesneg.
Ymateb CBAC
Dywedodd llefarydd ar ran CBAC: “Mae CBAC yn cytuno bod gwersi i’w dysgu gan bawb a oedd yn ymwneud â TGAU Saesneg yn 2012. Wrth i ni gychwyn ar gyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau rydym yn croesawu casgliad yr adroddiad bod angen i weinidogion a rheoleiddwyr ‘wrando pan fydd pryderon yn cael eu datgan wrth i ddatblygiad cymwysterau fynd rhagddo.’
“Rydym yn nodi barn y pwyllgor y byddai’n ‘anffodus’ i ddod â’r system cymwysterau a rheoleiddio tair gwlad i ben.
“Prif flaenoriaeth CBAC yw sicrhau y bydd pobl ifanc yn cael cymwysterau sy’n cael eu parchu a’u gwerthfawrogi ym Mhrydain a thu hwnt, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gymryd rhan lawn mewn trafodaethau yn ymwneud â datblygu cymwysterau yng Nghymru a Lloegr, fel y gallwn barhau i ddarparu cymwysterau rhagorol sydd yn adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc.”