Fe fydd plant a phobl fregus sy’n gorfod rhoi tystiolaeth mewn achosion troseddol yn cael y cyfle i recordio eu tystiolaeth o flaen llaw mewn ymgais i’w hamddiffyn rhag y trawma o ymddangos gerbron llys.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling y bydd y drefn newydd yn cael ei threialu yn Leeds, Lerpwl a Kingston-upon-Thames gyda’r bwriad o’i chyflwyno ar draws y wlad os yw’n llwyddiannus.

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan farnwr mwyaf amlwg Cymru a Lloegr yn ogystal ag elusennau sy’n pryderu bod plant a phobl ifanc yn cael eu croesholi mewn awyrgylch ymosodol.

Y bwriad yw osgoi achosion tebyg i farwolaeth yr athrawes feiolin Frances Andrade, 48, oed, oedd wedi lladd ei hun ar ôl cael ei chroesholi yn Llys y Goron Manceinion yn ystod achos y côr-feistr Michael Brewer.

Cafwyd Brewer yn euog o droseddau rhyw yn erbyn Frances Andrade pan oedd  hi’n 14 a 15 oed.

‘Ail-fyw profiadau trawmatig’

Dywedodd Chris Grayling nad oedd yn briodol “bod dioddefwyr ifanc a bregus yn gorfod ail-fyw’r profiadau mwyaf trawmatig maen nhw erioed wedi ei gael, yn aml am ddyddiau, pan maen nhw’n cael eu croesholi yn y llys.

“Rwy’n benderfynol bod yn rhaid dod a diwedd i hyn, ond heb gyfaddawdu ar hawl pawb i gael achos teg.”

Y bwriad yw rhoi’r cyfle i blant a phobl fregus roi tystiolaeth a chael eu croesholi cyn i’r achos ddechrau.

Mae mesurau arbennig eisoes mewn lle ar gyfer plant sy’n cael rhoi tystiolaeth tu ôl i sgrin neu drwy gyswllt fideo, ac mae hawl gan farnwyr i ymyrryd i osgoi croesholi sy’n rhy ymosodol ond mae ’na gynnydd yn nifer y dioddefwyr sy’n cael profiadau trawmatig yn ystod achosion llys.

Nid oes cyfyngiad ar faint o gyfreithwyr sy’n cael croesholi dioddefwr neu dyst, neu faint o amser maen nhw’n ei dreulio yn rhoi tystiolaeth.

Daw’r cyhoeddiad ar ol i brif weithredwr yr elusen Victim Support, Javed Khan, rybuddio mai dim ond mater o amser fydd hi cyn bod plentyn yn lladd ei hun o ganlyniad i’r awyrgylch ymosodol yn y llysoedd.