Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod prifysgolion Cymru’n cyfrannu £2.6bn i economi’r wlad.
Mae’r ffigwr yn codi i £3.6bn wrth ystyried faint o arian mae myfyrwyr yn ei wario i ffwrdd o gampysau prifysgolion.
Cafodd yr ymchwil ei chomisiynu gan Addysg Uwch Cymru ac fe gafodd y gwaith ei gwblhau gan Viewforth Consulting.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi yn ystod Wythnos Prifysgolion Cymru – Tanio Tyfiant, sy’n pwysleisio pwysigrwydd y sector addysg uwch i economi Cymru.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae addysg uwch yn un o brif ddiwydiannau Cymru, ac mae’n cynhyrchu tua 3% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y genedl.
Wrth groesawu myfyrwyr tramor i Gymru, mae hynny’n ychwanegu £400 miliwn o incwm, yn ôl y gwaith ymchwil.
Mae bron i 3% o weithlu Cymru’n gweithio mewn swyddi a gafodd eu creu yn uniongyrchol gan brifysgolion.
‘Rôl allweddol’
Dywedodd cydawdur yr ymchwil, Ursula Kelly o Viewforth Consulting: “Mae’r canlyniadau’n dangos sut mae’r sector addysg uwch yn ffactor economaidd o bwys a’i fod yn ddiwydiant ynddo’i hun trwy gynhyrchu allbwn economaidd, swyddi, GDP a chefnogi cymunedau ar hyd lled y wlad.”
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru, yr Athro John Hughes: “Er y bu’n amlwg erioed fod ein prifysgolion o gryn bwys i Gymru trwy gynnal a chefnogi datblygiad economaidd trwy addysg ac ymchwil, mae’r ffigyrau hyn yn dangos gwir bwysigrwydd cyfraniad prifysgolion i’w cymunedau lleol ac economi ehangach Cymru, trwy gynnal miloedd o swyddi ‘canlyniadol’ y tu hwnt i gampysau.
“Mae’r adroddiad yn dangos, am bob £1m o refeniw mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, fod £1.03m ychwanegol yn cael ei gynhyrchu yn economi Cymru.”
‘Canolog i’r economi’
Wrth gyfeirio at y cyhoeddiad heddiw dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: “Mae ein Prifysgolion yn ganolog i danio’r economi yng Nghymru, cefnogi diwydiant, ymchwil ac arlwyed a chreu swyddi.
“Mae’r ffigyrau arwyddocaol a rhyddhawyd heddiw yn tanlinellu pwysigrwydd y sector addysg uwch i Gymru fel cyfanwaith ac rydym ni, fel Llywodraeth, yn gwneud oll y gallwn i gefnogi a chryfhau’r sector a sicrhau ei lwyddiant a chynaliadwyedd hir dymor.”
‘Cyfraniad unigryw’
Wrth ymateb i’r ymgyrch, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns AC: “Mae hi bron yn amhosib gorbwysleisio cyfraniad unigryw’r sector addysg uwch yng Nghymru i economi ein cenedl ni ac i’r gymdeithas gyfan.
“Mae ein prifysgolion wedi dysgu, cyfoethogi ac ysbrydoli cenedlaethau o bobol ifanc sy’n dyheu am gyflawni eu huchelgais.
“Mae yna ddadl i’w chael ynghylch sut y gallwn ni barhau i godi safonau gan ei bod hi’n dal yn siomedig nad yw’r un o sefydliadau Cymru’n ymddangos ymhlith y 50 o brifysgolion gorau yn y byd.
“Mae’r wythnos hon yn gyfle amserol i archwilio pa fesurau y gellir eu cymryd gan lywodraethau’r DU a Chymru er mwyn arfogi ein prifysgolion ar gyfer y dyfodol fel y gallan nhw barhau i anelu at gyfleusterau ymchwil a safonau dysgu o’r radd flaenaf yn fyd-eang.”