Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno ag ymgyrch Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) i wahardd hysbysebion gan gwmnïau sy’n cynnig benthyciadau diwrnod cyflog.

Mae prifysgolion Northampton a Northumbria eisoes wedi gwahardd hysbysebion o’r fath.

Mae’r cwmnïau benthyciadau wedi cael eu rhybuddio eu bod nhw’n wynebu cael eu diddymu os nad ydyn nhw’n cadw at reolau benthyca.

Dywed y Swyddfa Masnachu Teg bod ganddyn  nhw dystiolaeth sy’n awgrymu bod rhai cwmnïau wedi ymddwyn mewn modd anghyfrifol wrth roi benthyciadau i fyfyrwyr.

Dywedodd Dirprwy Lywydd Cenedlaethol UCM, Pete Mercer: “Mae myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd ac mae hyn yn cael gwir effaith ar eu lles a’u haddysg.

“Mae’n wych bod y sefydliadau hyn eisoes wedi ymuno â’n hymgyrch ac rwy’n gobeithio y bydd eraill yn gwneud yr un fath yn fuan.”

Gallai benthycwyr diwrnod cyflog gael eu cyfeirio at y Comisiwn Cystadleuaeth, a allai benderfynu gwahardd neu gyfyngu ar hawl cwmnïau i gael eu hysbysebu.

‘Benthyciadau pontio tymor byr’

Dywedodd yr arbenigwr ariannol o wefan uSwitch.com, Michael Ossei: “Gyda chostau byw a ffioedd dysgu’n codi a llyfrau ddim yn mynd yn rhatach, mae’n hawdd gweld sut gallai cynifer o fyfyrwyr gwympo’n ôl a dibynnu ar fenthyciadau diwrnod cyflog i’w cael nhw trwy’r brifysgol neu’r coleg.

“Fodd bynnag, fel mae’r enw’n awgrymu, dylid ond cymryd y mathau hyn o fenthyciadau fel benthyciadau pontio tymor byr.

“Mae’n hanfodol bod gan unrhyw un sy’n ystyried derbyn benthyciad ffordd sicr a chadarn o’i dalu’n ôl o fewn yr amser penodedig.”

‘Pardduo’r diwydiant cyfan’

Ond dywedodd prif weithredwr Consumer Finance Association, Russell Hamblin-Boone: “Mae’n bryder bod UCM yn gwrthod rhoi dewis i’w haelodau, sydd yn bobol ddeallus sydd wedi’u haddysgu, heb ddeall yn llawn y diwydiant benthyca tymor byr na’r ffordd y mae pobol ifanc yn rheoli eu harian yn 2013.

“Rydyn ni’n llwyr gefnogi dyhead UCM i amddiffyn ei myfyrwyr ac unrhyw ymdrechion i waredu benthycwyr twyllodrus, ond mae’r ymgyrch hon yn erbyn hysbysebu ar y campysau’n gwneud ychydig iawn i fynd i’r afael ag arferion benthyca drwg ac mae’n pardduo’r diwydiant cyfan mewn ffordd anghyfiawn.”