Cyngor Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau ymgynghoriad 7 wythnos ar gyfer cynnig i greu ysgol ffydd gyfunol yng Ngogledd Sir Ddinbych.
Fe wnaeth cabinet y cyngor gymeradwyo’r ymgynghoriad ym mis Mai ac maen nhw’n gwahodd y cyhoedd a sefydliadau i leisio eu barn ar y cynnig.

Byddai cam cyntaf y prosiect yn gweld ysgol ffydd gyfunol newydd yn cael ei chreu ar safleoedd Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones yn y Rhyl ac Ysgol Santes Ffraid yn Ninbych.

Ychydig o newid fydd yn ystod y cam cyntaf; bydd gan yr ysgol enw a phennaeth newydd, ond byddai’n parhau i weithredu ar y ddau safle cyfredol.

Adeiladu ysgol newydd fyddai’r ail gam a byddai’r holl ddisgyblion yn cael eu symud i’r safle.

Dim ond os yw’r cam cyntaf yn cael ei weithredu ac yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol arall y byddai hyn yn cael ei weithredu.  Does dim penderfyniad wedi ei wneud am y lleoliad penodol ond mae’n debyg y bydd yn ardal Bodelwyddan/Rhuddlan sydd tua chanol dalgylch y ddwy ysgol ffydd gyfredol.
Mae’r ymgynghoriad ffurfiol yn dod i ben ar 22 Gorffennaf 2013. Mae’r Ddogfen Ymgynghori a ffurflen ymateb i’w gael ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/moderneiddioaddysg.

‘Ysbrydoli’r disgyblion a’u haddysgu i safon uwch’
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, aelod arweiniol addysg Cyngor Sir Ddinbych: “Y grym sy’n cymell y cynnig hwn yw darparu addysg ffydd o’r safon gorau ar gyfer disgyblion Sir Ddinbych.

“Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Ddinbych yn cynnwys darparu ysgol ffydd benodol yng Ngogledd Sir Ddinbych. Mae’n rhaid defnyddio’r cyllid hwn i wella ansawdd yr hyn yr ydym eisoes yn ei ddarparu a’r modd y mae’n cael ei ddarparu.

“Mae’r ddwy ysgol yn gwneud yn dda, ond bydd y cynnig hwn yn gam cyntaf mewn cynllun i greu ysgol ffydd newydd ble y gellir gwneud llwyddiant y disgyblion hyd yn oed yn well.

“Os yw’r cynnig yn cael ei weithredu byddwn yn sicrhau ein bod yn cynnig ysgol ffydd gyfunol newydd sy’n gallu ysbrydoli’r disgyblion a’u haddysgu i safon uwch.    Ein hamcan yw trawsffurfio rhannau penodol o’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd fel eu bod yn cyfateb â’r datblygiadau diweddaraf yn narpariaeth addysgol.

“Bydd ysgol newydd yn darparu amgylchedd dysgu sydd yn barod am yr her o ddarparu addysgu effeithiol, llwyddiannus a modern.”