Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu dychwelyd llythyr Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ato, gan fynnu “ymateb mwy ystyrlon” i gynigion y Maniffesto Byw.

Anfonodd Carwyn Jones lythyr 18 tudalen fel ymateb i fwy na 30 o gynigion er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn dilyn canlyniadau siomedig y Cyfrifiad yn 2011.

Wrth anfon y llythyr yn ôl, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar Gymunedau Cynaliadwy, Toni Schiavone eu bod nhw’n ddiolchgar am yr ymateb.

Ond mynegodd bryder hefyd mai “rhestru’r hyn mae’r llywodraeth eisoes yn ei wneud” roedd yr ymateb.

Ychwanegodd fod y Gymdeithas yn awyddus i wybod pa bosibiliadau newydd y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig.

‘Hunanamddiffynol’

Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, Robin Farrar: “Er i ni groesawu ymateb manwl iawn y Llywodraeth i’n cynigion polisi, os mai unig ymateb y Llywodraeth i gynigion mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith yw rhestru’n hunanamddiffynol yr hyn y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, does dim llawer o ddiben i’w “Chynhadledd Fawr”.

“Rydyn ni’n dychwelyd yr ymateb at y llywodraeth felly – a gofyn iddyn nhw am eu cynlluniau newydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Ni fydd pwynt i neb fynd i gynnig syniadau newydd os na fydd meddwl agored gan y llywodraeth ac os bydd yn ceisio amddiffyn ei hun yn unig.

“Gyda llai na phedair wythnos tan brif ddigwyddiad y Gynhadledd Fawr, mae ein haelodau ni yn dechrau cwestiynu pwrpas y broses gan nad yw’n ymddangos bod y Llywodraeth yn mynd ati o ddifrif i wrando.”

Cynhadledd Fawr

Mewn cyfarfod  cyffredinol arbennig dros y penwythnos, ystyriodd y mudiad dros gant o sylwadau i’w “Maniffesto Byw” sydd yn gwneud dros dri deg o argymhellion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.

Cyhoeddodd Carwyn Jones ym mis Chwefror ei fod am gynnal ‘Cynhadledd Fawr’ ar ddyfodol y Gymraeg, trwy rannu syniadau gydag ymgyrchwyr.

Wrth gyhoeddi’r Gynhadledd Fawr, fe ddywedodd: “Mae’r Gymraeg yn wynebu heriau aruthrol yn y blynyddoedd i ddod.

“Maen nhw’n heriau mawr i ni fel Llywodraeth, ond allwn ni ddim gwneud y gwaith ar ein pennau ein hunain.

“Un o’r amcanion y mae’n rhaid i ni weithio i’w gyflawni yw gwneud y Gymraeg yn iaith ‘fyw’, yn enwedig ymhlith pobol ifanc y tu hwnt i gatiau’r ysgol.

“Drwy’r Gynhadledd Fawr, dwi am sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud.

“Dwi o’r farn bod y rhan fwyaf o bobol Cymru am weld ein hiaith yn tyfu ac yn ennill tir yn y blynyddoedd i ddod.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ym mis Chwefror, dywedodd Robin Farrar: “Roedden ni’n siomedig nad oedd y Prif Weinidog yn gallu cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r safonau iaith a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn dilyn ei hymgynghoriad trwyadl iawn.”