Daw'r ddamwain yn fuan ar ol i adeilad ddymchwel ym Mangladesh, uchod
Mae nenfwd mewn ffatri esgidiau yn Cambodia wedi dymchwel gan ladd o leiaf dau o weithwyr ac anafu saith o bobl eraill.
Roedd tua 50 o weithwyr yn y ffatri, i’r dde o’r brifddinas Phnom Penh, pan ddymchwelodd y nenfwd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn credu bod offer trwm ar y llawr uwchben wedi achosi i’r nenfwd ddymchwel.
Mae timau achub wedi bod yn chwilio’r rwbel am rai oriau ac mae’n debyg nad oes unrhyw un arall yn gaeth yn y ffatri.
Dyma’r ddamwain ddiweddaraf i hoelio sylw ar amodau gwaith peryglus yn y diwydiant.
Mae’r ffatri yn cynhyrchu esgidiau a trainers ar gyfer cwmni yn Siapan ond hefyd yn allforio i’r UDA ac Ewrop.
Mae’r diwydiant dillad ac esgidiau yn Cambodia yn cyflogi 500,000 o bobl mewn 500 o ffatrïoedd dillad ac esgidiau yn y wlad.
Daw’r ddamwain tair wythnos yn unig ers i adeilad ddymchwel ym Mangladesh gan ladd 1,127 o bobl.