David Cameron
Roedd ’na ergyd i David Cameron neithiwr wrth i 114 o Aelodau Seneddol Ceidwadol bleidleisio o blaid gwelliant yn galw am refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd y gwelliant gan ASau’r meinciau cefn yn gresynu nad oedd araith y Frenhines yn cynnwys deddfwriaeth ar gyfer refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd y gwelliant ei drechu o 277 o bleidleisiau i 130. Roedd 11 o ASau Llafur ac un AS o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio o blaid y gwelliant.
Mae llefarydd ar ran David Cameron wedi mynnu nad yw hyn yn ergyd i’w awdurdod ond roedd ei gefnogwyr wedi erfyn ar y meinciau cefn i ymddiried yn y Prif Weinidog ar ôl iddo geisio lleddfu’r tensiynau drwy gyhoeddi mesur drafft a fyddai’n paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm ar ddyfodol Prydain yn Ewrop erbyn 2017.
Roedd pedwar AS o Gymru, Guto Bebb, David Davies, Simon Hart ac Alun Cairns wedi dweud eu bod nhw am gefnogi’r gwelliant.
Fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal bore ma ar gyfer mesur preifat a fydd yn ceisio sicrhau deddfwriaeth i ymrwymo i refferendwm ar Ewrop.