Adam Price
Mae cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price wedi awgrymu mewn papur y dylid sefydlu un awdurdod lleol yng ngorllewin Cymru, fyddai’n uno’r holl siroedd rhwng Ynys Môn a Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Adam Price wrth Golwg mai am resymau ieithyddol y mae e wedi awgrymu’r cynllun awdurdod ‘Arfor’ a allai fod yn ddadleuol.

Dywedodd: “Yn sicr o ran y Gymraeg, mae ’na fanteision clir o uno’r cynghorau yn y bröydd Cymraeg, oherwydd mae’n creu lefel o lywodraeth yn y Fro Gymraeg sydd am y tro cyntaf yn gallu cynllunio ar lefel strategol ac ymarferol ar lawr gwlad o blaid y Gymraeg ac o blaid y Fro Gymraeg… ac o blaid cadw ac ymestyn y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw o hyd.”

Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.