Sian Gwynedd
Mae nifer gwrandawyr Radio Cymru wedi gostwng 6,000 yn ystod chwarter cyntaf 2013, yn ôl ffigurau diweddaraf y cwmni ymchwil Rajar (Radio Joint Audience Research).
Mae’r 119,000 bellach yn gwrando ar Radio Cymru – 17,000 yn llai na’r un cyfnod y llynedd.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf ar ôl ffrae rhwng Radio Cymru a chorff Eos, sy’n gofalu am hawliau cerddorion a chyfansoddwyr.
Roedden nhw wedi ceisio hawlio rhagor o arian am gael chwarae eu caneuon ar yr orsaf genedlaethol ar ddechrau’r flwyddyn.
Dydy’r trafodaethau ddim wedi dod i ben, ond does dim cyfyngiad bellach ar y gerddoriaeth sy’n gallu cael ei chwarae ar Radio Cymru.
Wrth i’r ffrae barhau, penderfynodd nifer o gyfansoddwyr dynnu’r hawl i chwarae eu cerddoriaeth yn ôl, ac fe’i cefnogwyd gan nifer o berfformwyr eraill, gan gynnwys beirdd.
Daeth y boicot i ben ym mis Chwefror.
Yn dilyn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus, mae’r mater bellach yn cael ei drafod mewn tribiwnlys, ond does dim disgwyl cytundeb am rai misoedd eto.
‘Siomedig – ond nid yn gwbl annisgwyl’
Mewn datganiad, dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd: “Mae’r ffigurau hyn yn cyfeirio at gyfnod o sialensiau, trafferthion a newidiadau mawr i amserlen yr orsaf na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.
“Ac yn y cyd-destun hwnnw mae’r gostyngiad yng nghyrhaeddiad Radio Cymru yn siomedig ond nid yn gwbl annisgwyl.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed ac yn greadigol iawn dros y misoedd diwethaf drwy gyfnod anodd ac rydw i eisiau talu teyrnged i’w dyfalbarhad.
“Rydw i’n hyderus y bydd tîm Radio Cymru yn parhau i weithio’n galed i gynhyrchu rhaglenni o’r safon uchaf sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd led led Cymru.
“Er hynny, mae’r ffigurau’n cadarnhau’r sialensiau eang sy’n wynebu’r orsaf ac yn tanlinellu pwysigrwydd Sgwrs Radio Cymru – ein gwahoddiad i wrandawyr ddweud eu dweud am ddyfodol yr orsaf.
“Ein ffocws nawr yw parhau gyda’r sgwrs er mwyn datblygu cynlluniau a fydd yn sicrhau y bydd Radio Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posib i wrandawyr yn y dyfodol.”