Gwefan papur lleol y Plain Dealer yn rhoi sylw i'r achos
Mae gyrrwr bws wedi ymddangos mewn llys ar gyhuddiadau o dreisio a chipio tair gwraig yn Ohio.

Wnaeth Ariel Castro, 52, ddim codi ei ben na dweud dim yn ystod y gwrandawiad cynta’ yn ei erbyn yn ninas Cleveland.

Fe gafodd ei gyhuddo o dreisio’r tair gwraig, sydd bellach yn eu hugeiniau, ac o’u cadw nhw a merch fach un ohonyn nhw yn gaeth.

Mae’r heddlu’n dal i geisio deall sut y llwyddodd Ariel Castro i gadw’r tair yn gaeth am tua deng mlynedd ar ôl eu cipio.

Gadael y tŷ

Mae’n debyg mai dim ond dwywaith yr oedden nhw wedi gallu gadael y tŷ, i fynd i garej leol.

Fe fydd yr heddlu’n cyflwyno tystiolaeth bod Ariel Castro wedi cam-drin y tair yn rhywiol a’u treisio’n gyson.

Dyw dau frawd y gyrrwr bysus ddim wedi eu cyhuddo o droseddau.