Jimmy Savile (jmb CCA2.5)
Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn gwadu bod eu swyddogion wedi helpu i guddio troseddau rhywi y cyflwynydd teledu Jimmy Savile.
Doedd dim tystiolaeth o hynny, medden nhw, ar ôl ymchwiliad mewnol i’r honiadau.
Er bod uchel swyddogion yn mynd i ‘Glwb Bore Gwener’ yn fflat y paedoffil yn Leeds, mae’r adroddiad yn awgrymu mai fath o foreau coffi oedd y rheiny.
Roedd y swyddogion heddlu oedd yn mynd yno yn ymddwyn yn gwbl broffesiynol, medden nhw.
Pryder
Ond mae’r adroddiad yn cydnabod fod peth pryder tros ddefnydd yr heddlu o Jimmy Savile i arwain ymgyrchoedd cyhoeddus.
Roedd hynny’n dibynnu gormod ar gyfeillgarwch y cyflwynydd gydag uchel swyddogion, meddai’r adroddiad, a doedd yna ddim proses ffurfiol i sicrhau ei wasanaeth.
Erbyn hyn mae 68 o bobol yn ardal Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi dwyn cwynion yn erbyn Savile.